Hwn yw y sanctaidd ddydd

Hymns #23

1) wn yw y sanctaidd ddydd,
gorffwysodd Duw o’i waith;
a ninnau nawr, yng ngwenau Duw,
gorffwyswn ar ein taith.

2) Hwn yw’r moliannus ddydd,
cydganodd sêr y wawr;
mae heddiw lawnach testun cân,
Molianned pawb yn awr.

3) Hwn yw y dedwydd ddydd,
daeth Crist o’i fedd yn fyw;
O codwn oll i fywyd gwell,
i ryddid meibion Duw.

4) Hwn yw’r brenhinol ddydd,
mae Crist i gael ei le;
O Dduw, rho heddiw weled drws
yn agor yn y ne’.