Iesu’n ddigon

Hymns #318

1) Iesu, Iesu, ‘rwyt ti’n ddigon,
‘Rwyt ti’n llawer mwy na’r byd;
Mwy trysorau sy’n dy enw
Na thrysorau’r India i gyd:
Oll yn gyfan
Ddaeth i’m meddiant gyda’m Duw.

2) Y mae gwedd dy wyneb grasol
Yn rhagori llawer iawn
Ar bob peth a welodd llygad
Ar hyd wyneb daear lawn:
Rhosyn Saron
Ti yw tegwch nef y nef.