Hymns #89
1) Nesawn i’th ŵydd, O! Arglwydd Iôr,
Ar awr dy sanctaidd ddydd;
Mae’r baich mor drwm i’n henaid llesg,
Ac O! mor wan yw’n ffydd.
2) Bendithia Di’n dyfodfa oll
I’th dŷ, O! Dduw, yn awr;
Dwg ni o afael pethau mân
I blith dy bethau mawr.
3) Tro’r pethau yn geriwbiaid glân
Yn fflam dy allor Di,
A’th gariad a’i faddeuant mawr
A’i adian drosom ni.
4) Rho inni olwg newydd iawn
Ar ryfedd waith dy ras,
A’th fawr drugaredd as ein hôl
Yn eitha’r anial cras.
5) O! tyn ni â’th drugaredd gref
Yn ôl o’n crwydro’n awr,
A gwisg drachefn ein hegwan ffydd
 nerth dy bethau mawr.